Fe gipiodd Port Talbot bwynt yn erbyn Aberystwyth yn Stadiwm GenQuip neithiwr ar ôl cic o’r smotyn yn hwyr yn y gêm ond maen nhw’n teimlo y dylen nhw fod wedi cael o leia’ un gic gosb arall.
Fe orffennodd y gêm 1-1 ar ôl i Aberystwyth fynd ar y blaen yn dilyn gôl gan Connall Murtagh gydag ugain munud yn weddill.
Fe unionodd Luke Bowen y sgôr yn ystod yr amser ychwanegol gyda chic o’r smotyn ar ôl i Matthew Rees gael ei faglu yn y cwrt cosbi.
‘Cic o’r smotyn clir’
Ond yn ôl llefarydd y clwb, Mark Pitman, fe ddylai Port Talbot fod wedi cael cic o’r smotyn ychydig cyn i’r ymwelwyr sgorio.
“Roedd o‘n amlwg yn gic o’r smotyn, ond ni chafodd ei ganiatáu ac fe sgoriodd Aberystwyth yn fuan wedyn,” meddai Mark Pitman.
Fe gafodd Martin Rose ei faglu wrth fynd am gôl Aberystwyth, ond fe wrthododd y dyfarnwr Dean John wrando ar Bort Talbot.
Fe aeth y chwarae yn ei flaen ac fe enillodd Aberystwyth cic gornel. Fe sgoriodd Murtagh gyda pheniad oddi ar y gic gornel yna i roi Aberystwyth ar y blaen.
“Rwy’n credu y dylen ni fod wedi cael cic gosb yn yr hanner cyntaf hefyd, pan gafodd Rose ei faglu bryd hynny. Ond roedd y digwyddiad yn yr ail hanner yn gliriach byth,” meddai Mark Pitman.
‘Rhwystredig’
Ond mae Mark Pitman yn credu bod gêm gyfartal yn ganlyniad teg wrth ystyried y gêm yn ei chyfanrwydd.
“Ni chafodd Port Talbot lawer o gyfleoedd yn ystod y gêm heb law am gyfle Drew Fahiya pan darodd o’r postyn. Aberystwyth gafodd y cyfle gorau i sgorio.
“Mae wedi bod yn rhwystredig iawn i ni ar ôl dechrau da i’r tymor a churo Llanelli.
“Ond fe wnaethon ni golli gartref yn erbyn Caerfyrddin ac rwy’n credu ein bod ni wedi cymryd y gêm yna’n ganiataol.”
‘Ffyddiog’
Mae Port Talbot eisoes wyth pwynt tu ôl i Fangor ar frig y tabl ond mae Mark Pitman yn credu bod digon o amser ganddyn nhw i ddal i fyny.
“Does dim un gêm hawdd yn y gynghrair eleni, mae’r timau wedi cryfhau ac fe fydd pawb yn cymryd pwyntiau oddi ar ei gilydd,” meddai.
“Mae Bangor yn haeddu bod ar y brig, ond mae’r timau eraill yn yr adran yn weddol agos.”