Mae llwyddiant Bangor yn Ewrop wedi arwain at gychwyn perffaith i’r clwb yn Uwch Gynghrair Cymru, yn ôl llefarydd ar ran y clwb.

Fe enillodd Bangor 5-1 yn erbyn Airbus UK neithiwr gan ymestyn eu record i bum buddugoliaeth yn olynol a chynyddu eu mantais ar frig y tabl i chwe phwynt.

Fe sgoriodd yr ymosodwr Jamie Reed tair gôl wrth i dîm Nev Powell anfon neges glir i weddill yr adran.

‘Ewrop wedi helpu’

Mae llefarydd y clwb, Huw Pritchard yn credu bod ymgyrch lwyddiannus y clwb yn Ewrop eleni wedi arwain at ddechrau ardderchog yn Uwch Gynghrair Cymru.

“Fe chwaraeodd yr hogiau pedair gêm gystadleuol iawn yn Ewrop ac mae eu hyder wedi cynyddu o ganlyniad i hynny,” meddai Huw Pritchard wrth Golwg 360.

“Roedd cael chwarae yn erbyn timau o’r safon yna’n brofiad gwerthfawr i’r tîm. Mae’r ymgyrch yn Ewrop hefyd wedi rhoi fwy o amser i’r chwaraewyr baratoi gyda’i gilydd ar gyfer y tymor newydd.

“Yn ystod yr amser hynny fe gafwyd y cyfle hefyd i adeiladu ar yr ysbryd da iawn oedd eisoes yn bodoli o fewn y garfan.”

Mae Huw Pritchard yn credu y gallai Bangor gynnal eu dechrau ardderchog i’r tymor oherwydd bod eu hyder nhw mor uchel.

“Dydw i ddim yn gweld pam na allen ni adeiladu ar y dechrau yma i’r tymor. Mae’r hyder yn uchel a safon y perfformiadau’n dda iawn. Mae gennym ni un o’r carfannau cryfa’ ers
blynyddoedd.”

Reed yn serennu

Fe ddaeth y gôl gyntaf ar ôl tair munud wrth i Reed ganfod cefn y rhwyd ar ôl camgymeriad gan olwr Airbus UK, Kristian Rogers.

Fe ddyblodd Reed mantais Bangor ar ôl hanner awr cyn i Alan Bull ychwanegu trydedd gydag ymdrech o ugain llath cyn yr egwyl.

Fe darodd yr ymwelwyr ‘nôl wedi awr o’r chwarae wrth i Nick Rushton sgorio yn fuan wedi i olwr Bangor arbed ymdrech gan Danny Desmoreaux.

Ond Bangor orffennodd y cryfa’ wrth i Reed sgorio ei drydydd wrth ymyl y cwrt cosbi gydag ugain munud yn weddill cyn i’r eilydd Les Davies sgorio pumed gol Bangor er mwyn sicrhau buddugoliaeth fawr.

Fe ddywedodd Huw Pritchard ei fod yn amhosib dewis perfformiadau unigol o’r gêm neithiwr gan fod Bangor wedi chwarae mor dda fel tîm.

Ond fe nododd bod partneriaeth Reed a Bull yn y llinell flaen yn arbennig gyda’r ymosodwyr yn datblygu “dealltwriaeth effeithiol iawn”.