Roedd yna gyfarfod hanesyddol yn Llundain heddiw rhwng dau gymeriad enwog.

Mae un yn fawr, yn grwn ac yn aml yn gwneud i bobol chwerthin; Cyw y cymeriad teledu plant yw’r llall.

Wrth fynd i Lundain i nodi ehangu rhaglenni plant bach y sianel i gynnwys y penwythnos, fe gafodd Cyw gyfarfod â Maer Llundain, Boris Johnson.

Roedd hynny y tu allan i’r Gyfnewidfa Stoc cyn i Cyw fynd yn ei flaen i Ysgol Gymraeg Llundain i gwrdd â’r plant a rhai o gymeriadau eraill y rhaglenni plant, fel Sali Mali a Jac y Jwc.

Roedd un o gyflwynwyr S4C yno hefyd – mae Alex Jones bellach yn gweithio yn Llundain, yn cyflwyno The One Show ar y BBC.

“Does dim llawer o Gymraeg i’w glywed na’i ddarllen wrth fyw yng nghanol Llundain. Mae Cyw’n ffynhonnell werthfawr i’r disgyblion,” meddai pennaeth yr Ysgol Gymraeg, Menna George.