Mae Tiger Woods yn ôl yn nhîm America a fydd yn dod i Gasnewydd ar ddechrau Hydref i gystadlu am y Ryder Cup.

Roedd amheuaeth a fyddai Rhif Un y byd yn y tîm ar ôl methu ag ennill yr un twrnamaint y tymor hwn.

Ond heddiw, fe benderfynodd capten America, Corey Pavin, fod lle i Woods yn y tîm o ddeuddeg a fydd yn dod i Gasnewydd.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anffodus i Woods, yn bersonol ac yn broffesiynol. Ers i’w helyntion personol ddod i’r amlwg mae ei hyfforddwr wedi ei adael, mae wedi colli cytundebau gyda nifer o’i noddwyr, ac mae ei berfformiad ar y cwrs golff wedi bod yn siomedig.

Daeth Woods i’r pedwerydd safle yn y Masters, ei dwrnamaint cyntaf wedi’r pedwar mis o hoe, ac fe ddaeth yn bedwerydd eto yn yr US Open; ond dyna’r unig droeon iddo fod yn y deg uchaf y tymor hwn.

Mae Woods yn ymuno â thri arall sydd wedi cael gwahoddiad i’r tîm gan Corey Pavin – sef Stewart Cink, Zach Johnson a Rickie Fowler. Mae’r wyth arall wedi cyrraedd y tîm ar sail cyfanswm pwyntiau’r tymor.

Llun: Tiger Woods – AP Photo