Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble wedi gwadu’r sïon ei fod am roi’r gorau i hyfforddi.
Mae ‘na adroddiadau y bydd cyn hyfforddwr Bradford a Wigan yn gadael y clwb Cymreig gydag Iestyn Harris a Jon Sharp yn cymryd yr awenau.
Fe ddaw hyn er gwaethaf iddo arwain y Crusaders i rownd wyth olaf y Super League yn ei dymor cyntaf wrth y llyw a dim ond ail dymor y clwb o Wrecsam ym mhrif adran rygbi’r gynghrair.
Mae Noble hefyd wedi cael ei gysylltu gyda swydd hyfforddwr cynorthwyol y Penrith Panthers yn Awstralia.
Dim penderfyniad eto
Ond wrth iddo baratoi ei dîm i wynebu Huddersfield yn Stadiwm Galpharm dydd Sadwrn, fe ddywedodd Noble nad yw wedi penderfynu ei ddyfodol eto.
“Pan fydd y tymor yn dod i ben, fe fyddwn ni’n eistedd lawr i drafod. Nid wyf wedi gwneud penderfyniad am fy nyfodol eto,” meddai Noble.
“Rwy’n hoff iawn o’r Crusaders ac rwy’n hoffi’r hyn maen nhw wedi gynnig. Mae angen ychydig o uchelgais yno ond maen nhw wedi gwneud job wych.”
“Rwy’n hoff iawn o’r lle ac fe fydden ni’n hoffi aros yma. Ond does dim wedi’i benderfynu eto ac fe fyddwn ni’n edrych ar bethau yn yr wythnosau nesaf.”
Llun : Brian Noble