Mae heddlu Llundain sy’n ymchwilio i farwolaeth Gareth Williams yn dal i apelio am wybodaeth ar ôl cyhoeddi lluniau CCTV ohono ddoe.

Mae’r plismon sy’n arwain yr ymchwiliad i farwolaeth y Cymro oedd yn gweithio i wasanaeth cudd MI6 wedi disgrifio’r achos fel un “cymhleth ac anodd ei egluro.”

Cafwyd hyd i gorff noeth Gareth Williams wedi ei gloi mewn bag chwaraeon mewn baddon yn ei fflat yn ardal Pimlico, Llundain, bythefnos yn ôl. 

Apelio am wybodaeth yn sgil lluniau canol Awst

Mae’r lluniau CCTV yn dangos Gareth Williams yn mynd i mewn i faes parcio tanddaearol Holland Park ar Awst 14 ac mae’r heddlu yn awyddus i siarad gydag un unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd.

Y diwrnod canlynol roedd Gareth Williams wedi bod yn siopa yn Ffordd Brompton. Fe aeth i beiriant arian ac yna i mewn i siop Harrods.

Mae darluniau CCTV yn ei ddangos yn Hans Crescent yn mynd i gyfeiriad Ffordd Sloane, ger siop Dolce and Gabbana ar yr un diwrnod. Roedd yn gwisgo crys ti coch, trowsus Beige ac esgidiau chwaraeon gwyn.

Angen gwybodaeth hefyd am ddyn a dynes

Mae swyddogion heddlu wedi galw eto am wybodaeth am y dyn a’r ddynes oedd wedi galw yn ei gartref ym mis Mehefin neu Orffennaf yn hwyr un noson.

Mae profion post mortem wedi methu â dod o hyd i achos marwolaeth Gareth Williams, ac mae canlyniadau profion cynnar yn dweud nad oedd alcohol na chyffuriau yng ngwaed y Cymro o ardal Caergybi ym Môn.

Llun : Gareth Williams ( Gwefan Heddlu’r Met : llun CCTV)