Wrth i’r Pâb Benedict baratoi ar gyfer ei ymweliad â Phrydain wythnos nesaf, mae grŵp o Gatholigion sy’n pwyso am ddiwygio’r Eglwys yn ei chyhuddo o arddel agweddau hollol annerbyniol am bobl hoyw a merched.
Mae Catholic Voices for Reform wedi dweud eu bod nhw am weld “trafodaeth agored” ar faterion megis ordeinio menywod a thueddfryd rhywiol ac mae nhw wedi llunio chwe chwestiwn i’w cyflwyno i’r Pâb Benedict.
Fe ddywedodd Bernard Wynne, llefarydd ar ran Catholic Voices for Reform, nad oedd yn credu y byddai’r grŵp yn cael y cyfle i ofyn y cwestiynau i’r Pab yn uniongyrchol, ond ei fod yn siŵr byddai’r materion yn cael eu trafod “tu ôl i’r llenni.”
“Yr unig ffordd ‘mlaen i’w cynnal trafodaeth agored,” meddai Bernard Wynne o’r Catholic Voices for Reform.
“Mae gwir angen newid o fewn yr eglwys.”
Llun- Pab Benedict XVI / AP Photo