Mae dros 20,000 o bobl yn marw yn sgil eu gwaith yn ôl arolwg newydd gan undebau llafur Prydain.

Yn ôl y Gyngres Undebau Llafur, mae hyn yn dangos nad oes sail i’r gred fod gwledydd Prydain un o’r llefydd mwyaf diogel i weithio.

Dywed yr arolwg – The Case for Health and Safety – fod pobl yn marw yn sgil amrywiol fathau o ganser ac afiechydon yr ysgyfaint sy’n codi o’r gweithle, gweithio’n rhy agos â nwyon a chemegau, a damweiniau traffig.

Gwir ffigwr yn uwch?

Roedd yr arolwg hefyd yn honni nad oedd nifer o ddamweiniau’r gweithle yn cael eu cofnodi, gan wneud y gwir ffigwr yn uwch na’r rhif swyddogol.

Yn ôl y TUC, mae 1.2 miliwn o bobl yn credu eu bod yn dioddef o salwch sydd wedi ei achosi gan y gweithle – fel clefyd y galon, pwysau gwaith, poenau yn eu cefn ac ysgwyddau, ac iselder ysbryd.

Mae rhai cyflogwyr wedi bod yn galw am gwtogi deddfau diogelwch ond yn ôl y TUC mae deddfwriaeth yn gweithio cyn belled â’i fod o’n cael ei weithredu.

“Gall bob un o’r 20,000 o farwolaethau blynyddol yn y gweithle gael eu hatal,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Brendan Barber.

“Ond os bydd cyllid Iechyd a Diogelwch yn cael ei dorri, gallai’r canlyniadau fod yn ofnadwy.”

Llun: Arwyddion diogelwch gan Elliott Brown ar Flikr