Mae eglwys yn Amercia yn bygwth llosgi copïau o’r Coran ac yn ôl prif gadfridog y wlad byddai hyn yn peryglu bywydau ei milwyr ar draws y byd.

Dywedodd y Cadfridog David Petraeus y byddai lluniau o lyfr sanctaidd y Moslemiaid yn llosgi yn fêl ar fysedd eithafwyr a fyddai’n gallu eu defnyddio i gorddi casineb a thrais.

Mewn e-bost, dywedodd y byddai gweithred o’r math yma yn “rhoi ein milwyr a’n pobl gyffredin mewn perygl,” ac yn tanseilio yr ymgyrch yn Affgansitan.

Mae’r eglwys yn Fflorida yn bwriadu llosgi copïau o’r Coran ar Fedi 11, er mwyn cofio’r ymosodiadau ar ddau dwr Efrog Newydd yn 2001.

Roedd y protestio eisoes wedi dechrau yn Kabul ddoe mewn ymateb i fwriad yr eglwys.

Llun: Y Cadfridog Petraeus yn ymweld â milwyr yn Affganistan gan isfamedia ar Flikr