Dylan Iorwerth yn dadlau tros roi heibio arfer oes
Llyncwch eich poer. Gafaelwch yn dynn ym mraich y gadair a dywedwch ar fy ôl i, “Dw i’n cefnogi Lloegr; dw i eisio i Loegr ennill”.
Dyna ydi gwir arwyddocâd perfformiad tila tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Montenegro yn rowndiau rhagbrofol Ewrop 2010.
Os nad oes gwyrthiau’n digwydd, does gynnon ni ddim gobaith o gwbl o ennill ein grŵp – y gorau y gallwn ni obeithio amdano fo ydi’r ail safle a gêmau ail gyfle.
Felly, mae’n rhaid gobeithio y bydd Lloegr yn llwyddo i roi cweir i bob un o’r tîmau eraill, gan gynnwys y Swistir. Cym on, Rooney! Defnyddia dy droed y tro yma!
Gobaith
Er mor anodd ydi dweud y peth, os ydi Lloegr yn gorffen ar frig y grŵp yn gyfforddus, mae’n debyg o gynyddu ein gobeithion ni.
Mi fydd rhaid i ninnau guro Montenegro, Bwlgaria a’r Swistir hefyd, wrth gwrs, ond mae’n bosib mai ni hefyd fydd â’r cyfle gorau i fynd â phwyntiau oddi ar Loegr.
Mi fydd y Saeson yn edrych i lawr eu trwynau arnon ni a siawns na fydd chwarae’r hen elyn yn ddigon i roi ychydig o dân hyd yn oed ym moliau chwaraewyr ifanc Cymru.
Yn y diwedd, dyna ydi methiant mawr John Toshack. Mae ei dîm yn chwarae yr un mor ddiflas ag mae’r dyn ei hun yn swnio. Maen nhw’n chwarae’n ddiysbryd efo tactegau diflas ac mae yntau wedi methu â’u hysbrydoli.
Mae’n debyg fod hynny’n risg o gael chwaraewyr sy’n Gymry trwy eu neiniau a pherthnasau pell eraill ond mi ddylai rheolwr allu eu codi. O’r dechrau, wnaeth Tosh ddim o hynny.
Felly, tân y Ddraig amdani a Hwrê i faner San Siôr. Am gyfanswm o 450 o funudau.