Fe fydd ceir enwoca’ Cymru’n agor ffordd newydd sydd i fod i wella problemau traffig yn un o ardaloedd prysura’r wlad.
Fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn teithio i bentre’ Gartholwg i agor ffordd osgoi y mae pobol leol wedi bod yn ymgyrchu amdani ers tua 30 mlynedd.
Ceir Gilbern, a oedd yn cael eu cynhyrchu yn yr ardal tan 1974, fydd yn gyrru gynta’ tros y bron 5 milltir o ffordd a fydd yn cysylltu Llantrisant a Thonysguboriau gyda’r A470 i’r gogledd o Gaerdydd.
Mae tagfeydd cyson yn yr ardal, yn enwedig ar y naill ben a’r llall i’r diwrnod gwaith ac, yn ôl ymgyrchwyr lleol, mynd trwy’r ardal i lefydd eraill y mae’r rhan fwya’ o’r traffig.
LLUN : car Gilberns