Mae’r plismon sy’n arwain yr ymchwiliad i farwolaeth Cymro oedd yn gweithio i wasanaeth cudd MI6, wedi disgrifio’r achos fel un “cymhleth ac anodd i’w egluro”.
Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Gareth Williams wedi ei gloi mewn bag chwaraeon yn ystafell molchi ei fflat yn ardal Pimlico, Llundain, bythefnos yn ôl. Heddiw, mae Heddlu Llundain wedi rhyddhau fideo o Gareth Williams, wrth iddyn nhw hefyd apelio am gymorth gan y cyhoedd.
Mae Scotland Yard eisiau dod o hyd i wr a gwraig a gafodd fynediad i’r adeilad lle’r oedd Gareth Williams yn byw, yn hwyr un noson ym Mehefin neu Orffennaf.
Fe ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd arlliw o gyffuriau nac alcohol yng ngorff Gareth Williams.
Achos marwolaeth “ddim yn amlwg”
Mae profion post mortem wedi methu â dod o hyd i achos marwolaeth Gareth Williams, ac mae canlyniadau profion cynnar yn dweud nad oedd alcohol na chyffuriau yng ngwaed y Cymro o ardal Caergybi ym Môn.
Yn y fflat ei hun, doedd dim arwydd bod neb wedi torri i mewn, doedd dim byd oddi mewn i’r fflat wedi cael ei styrbio, a doedd dim byd amlwg wedi ei ddwyn.