Mae o leia’ 17 o bobol wedi eu lladd, a thua 40 wedi eu hanafu mewn ymosodiad gan hunanfomiwr ar swyddfa heddlu yng ngogledd-orllewin Pacistan heddiw.

Mae’r awdurdodau yn adrodd sut y mae heddlu a gwasnaethau argyfwng y wlad yn dal i chwilio ymysg rwbel yr orsaf yng nghanol tre’ Lakki Marwat yn rhanbarth Khyber Pakhtunkhwa.

Fe gafodd naw o swyddogion heddlu, pedwar oedolyn ifanc a phedwar o blant eu lladd yn yr ymosodiad.