Mae llywodraeth Sbaen wedi dweud eu bod nhw’n gwrthod derbyn cyhoeddiad gan y grwp ETA eu bod nhw am roi’r gorau i ddefnyddio trais.

Mae’r gweinidog, Alfredo Perez Rubalcaba yn dweud bod y grwp ar eu gwanaf oherwydd bod nifer o actifyddion wedi eu harestio, a bod y mudiad yn ei chael hi’n anodd rhoi trefn ar bethau.

Mae Rubalcaba yn dweud yn bendant na fydd trafod y weledigaeth o sefydlu rhanbarth annibynnol yng Ngwlad y Basg.

“Mae’r gair cyfaddawd, yn ogystal â’r syniad o heddwch dan amod er mwyn trafod, yn farw,” meddai, cyn ychwanegu na ellid ymddiried yn ETA i gadw eu gair nes y byddan nhw’n rhoi’r gorau am byth i ddefnyddio trais.