Mae hyfforddwr Cymru, John Toshack wedi dweud ei fod yn gobeithio bydd Gareth Bale yn gallu trosglwyddo ei berfformiadau gwych gyda Tottenham i’r lefel rhyngwladol.
Fe fydd Bale yn chwarae ar y chwith i Gymru yn erbyn Montenegro yn Podgorica heno, ar ôl cael dechrau ardderchog i’r tymor gyda Spurs.
“Rwy’n mawr obeithio y bydd yn gallu cynnal safon ei berfformiadau i Tottenham ar y lefel ryngwladol,” meddai’r rheolwr.
‘Llawer i’w ddysgu’
“Mae’n dal i fod yn chwaraewr ifanc ac mae gydag e lawer i’w ddysgu eto ond mae llawer o bobol yn cadw llygad arno,” meddai Toshack.
Fe ddatgelodd fod un o glybiau mawr y byd wedi gwneud “cynnig mawr” am y Cymro dros yr haf.
“Roedd yn gynnig mawr, ond dw i ddim am ddweud pwy oedd wedi gwneud y cynnig, allan o barch iddyn nhw,” meddai Toshack. “Mae Gareth hefyd yn ymwybodol bob yna bobl gyda diddordeb ynddo.”
Yr un sbesial
Un dyn sydd wedi edmygu Bale dros y blynyddoedd diwethaf, yw Jose Mourinho, rheolwr presennol Real Madrid – sef un o hen glybiau Toshack.
Roedd yna adroddiadau bod Mourinho wedi ceisio prynu Bale pan oedd yn rheoli Inter Milan, ac roedd yn chwilio am gefnwr chwith ymosodol ar ôl cymryd yr awenau yn y Santiago Bernabeau.
Fe ychwanegodd hyfforddwr Cymru nad yw ef wedi synnu gyda safon perfformiadau Bale ddiwedd y tymor diwethaf a dechrau’r tymor hwn.
“Rwy’n credu bod Harry Redknapp yn meddwl ei fod wedi cyflawni gwyrth gydag ef yn White Hart Lane, ond dyw safon ei chwarae ddim wedi fy synnu i. R’yn ni’n gwybod beth mae Gareth yn gallu’i wneud.”