Mae Iran wedi rhybuddio’r Israeliaid y bydden nhw’n taro’n ôl pe bai Israel yn ymosod ar eu safleoedd niwclear nhw.

Fe ddywedodd y Cadfridog Hasan Firouzabadi y byddai Israel yn wynebu “dial ofnadwy” pe bai hynny’n digwydd – y bygythiad oedd ymosodiad ar ei safleoedd niwclear hithau.

Yn ôl asiantaeth newyddion Mehr, roedd y Cadfridog yn siarad ar Ddiwrnod Quds, rali flynyddol yn erbyn Israel sy’n cael ei chefnogi gan wladwriaeth Iran.

Fe allai’r sylwadau ychwanegu at densiynau’r Dwyrain Canol wrth i’r Unol Daleithiau geisio ailgynnau’r broses heddwch.

Bygwth

Mae swyddogion llywodraeth Iran yn defnyddio’r achlysur i wneud sylwadau bygythiol yn erbyn Israel.

Mae Iran wastad wedi honni bod eu rhaglen niwclear yn un heddychlon sy’n cael ei ddefnyddio i greu ynni.

Ond mae Israel a rhai o wledydd y Gorllewin yn pryderu bod Iran am geisio datblygu arfau niwclear.

Dyw Israel ddim wedi gwrthod y syniad o ymosod ar safleoedd niwclear Iran a, dair blynedd yn ôl, roedd yna adroddiadau papur newydd fod ganddi gynlluniau cudd i wneud hynny.

Llun:Un o daflegrau Iran