Mae adroddiad newydd yn awgrymu bod bwyd o ffermydd lleol yn dda o ran yr amgylchedd.
Fe ddangosodd bod y carbon sy’n cael ei greu wrth gynhyrchu cig eidion a chig oen ar diroedd ffermydd Mynyddoedd Cambrian ymhlith y rhai isaf yn y Deyrnas Unedig.
Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ar ôl i ymchwilwyr ddadansoddi “ôl troed carbon” ugain o ffermydd yn yr ardal.
Mesur
Mae’r dechneg a ddatblygwyd gan Brifysgol Bangor yn mesur y carbon sy’n cael ei sugno o’r atmosffer gan y ffermydd – gan wrychoedd a choed er enghraifft – a gosod hynny’n erbyn y carbon sy’n cael ei ollwng gan yr holl ffermydd unigol.
Ar gyfartaledd, roedd yr ugain ffarm yn sugno 58% o’r holl garbon a oedd yn cael ei ollwng ac roedd tair hyd yn oed yn “garbon negyddol” – yn sugno mwy o garbon nag yr oedden nhw’n ei gynhyrchu.
“Mae’n braf iawn gweld bod y cig coch a gaiff ei gynhyrchu yma ymhlith y cig mwyaf ‘gwyrdd’ drwy’r Deyrnas Unedig,” meddai James Raw, Cadeirydd Grŵp Cynhyrchwyr Cig Oen Mynyddoedd Cambrian.
Argymhellion
Cafodd y prosiect ei gynnal gan Fenter Mynyddoedd Cambrian, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Phrifysgol Bangor.
Bydd Menter Mynyddoedd Cambrian yn gweithio gyda’r ffermwyr yn awr i drafod awgrymiadau’r adroddiad sut y gallan nhw leihau eu hôl troed hyd yn oed ymhellach.
Mae’r Fenter yn cynnwys ardal Mynyddoedd Elenydd, gan ymestyn o ogledd Sir Gaerfyrddin hyd at Ddyffryn Dyfi.
Llun: Rhai o wartheg duon ffermydd Mynyddoedd Cambrian