Fe fu farw un o gymeriadau mwya’ lliwgar gwleidyddiaeth gwledydd Prydain.
Cyril Smith oedd un o’r criw bach o aelodau seneddol a lwyddodd i gadw’r Blaid Ryddfrydol yn fyw yn nyddiau llwm yr 1970au.
Ac yntau’n Undodwr o ran crefydd, fe fu’n Aelod Seneddol tros Rochdale o 1972 hyd ddyddiau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 1992.
Fe enillodd gynta’ yn nyddiau’r jôc bod y Rhyddfrydwyr i gyd yn gallu ffitio i flwch ffôn … ac fe chwalodd hynny’n llwyr.
Ac yntau ar un adeg yn pwyso 29 stôn, roedd arno angen ei flwch ei hun … ond roedd hefyd yn llais cry’ di-nonsens ac yn boblogaidd iawn yn ei dref enedigol.
Roedd yn 82 oed pan fu farw ac wedi bod yn wael ers rhai misoedd.
Medden nhw
“Mae wedi bod yn llysgennad rhyfeddol ar ran ein tref ac yn ysbrydoliaeth. Bydd miloedd yn ei golli, nid yn unig yn Rochdale ond o amgylch y wlad.” – Paul Rowen, AS Rochdale tan 2010.
“Roedd Cyril Smith yn ffigwr cawraidd yng ngwleidyddiaeth Rochdale a bydd llawer yn ei golli.” – Simon Danczuk, yr AS Llafur presennol.
Llun: Cyril Smith yn ei anterth