Mae capten Cymru, Craig Bellamy, wedi dweud ei fod yn allweddol bod Cymru yn cael dechrau da i’w hymgyrch ym Mhencampwriaeth Ewrop heno.

Fe fydd tîm John Toshack yn wynebu Montenegro yn Podgorica yn eu gêm gynta’ yn y grŵp rhagbrofol sydd hefyd yn cynnwys Lloegr, Y Swistir a Bwlgaria.

Mae ymosodwr Caerdydd yn cydnabod mai Lloegr yw tîm cryfa’ ond bod y gweddill yn weddol gyfartal.

“R’yn ni wedi dod i Fontenegro i geisio ennill, ac fe fydd Montenegro yn ceisio gwneud yr un peth,” meddai Bellamy. “Os ’yn ni am gyflawni rhywbeth yn y grŵp yma, fe fydd y gêm yma’n allweddol.

Cyfle i gyflawni

“Ar bapur, Lloegr yw’r tîm cryfa’ ond roedd y Swistir yng Nghwpan y Byd hefyd. Mae Bwlgaria yn un o’r timau yna nad ’ych chi ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Rwy’n credu gallai Cymru, Bwlgaria, Swistir a Montenegro gyflawni rhywbeth yn y grŵp yma”

“Mae pawb am ddechrau’n dda. Fydd popeth ddim ar ben os na allwn ni wneud hynny. Ond i fod yn realistig, mae angen i ni sicrhau canlyniad positif.”