Mae dau o bobol wedi eu harestio ar amheuaeth o helpu dyn 76 oed i gyflawni hunanladdiad.
Mae’r ddau – dyn 48 oed a menyw 47 oed – wedi eu harestio am helpu Douglas Sinclair i deithio o wledydd Prydain i’r Swistir er mwyn marw mewn clinig yn Zurich.
Roedd Mr Sinclair yn dioddef o gyflwr multiple system atrophy a oedd yn achosi anabledd difrifol. Hyd at flwyddyn yn ôl, roedd yn byw gartre’, ond wedi i’w gyflwr ddirywio y llynedd, fe fu’n rhaid iddo symud i gartre’ gofal.
Yn ôl heddlu Northumbria, credir fod Mr Sinclair wedi marw yn y Swistir bron i bump wythnos yn ôl.
Yng nghyhoeddiadau marwolaeth papur newydd y Shields Gazette, roedd nodyn am y gŵr gweddw yn dweud ei fod “wedi marw yn dawel a gydag urddas ar ôl diodde’ ei salwch yn ddewr.”
Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth tra bod ymchwiliadau yn parhau.
Llun: un o glinigau Dignitas yn y Swistir