Fe fydd Gŵyl Gwobr Iris 2010 yn cychwyn gyda dangosiad première o Kick Off, ffilm sy’n adrodd be’ sy’n digwydd pan mae tîm o chwaraewyr pêl-droed caled yn dod wyneb yn wyneb â thîm o chwaraewyr hoyw.

Rikki Beadle-Blair sy’n gyfrifol am y ffilm, un sydd eisoes wedi ennill gwobrau am ei waith y tu ôl i’r lens.

“Mae’r ffilm yn herio ein rhagdybiaethau ni o’r hyn yw bod yn hoyw neu’n strêt ym myd chwaraeon ac yn awgrymu bod yna ffordd bell i fynd cyn y bydd goddefgarwch yn norm,” meddai Berwyn Rowlands, trefnydd gwyl ffilmiau ‘hoyw’ Iris yng Nghaerdydd.

Fe fydd y chwe ffilm nodwedd sy’n cael eu dangos yn ystod yr ŵyl eleni yn gymwys i’w hystyried ar gyfer gwobr ‘Ffilm Nodwedd Orau Iris’.

Dychwelyd i Gymru

Fe fydd yr awdur a’r cyfarwyddwr, Douglas Langway, yn dychwelyd i Gymru ar gyfer y premiere Prydeinig o ffilm nodwedd arall, sef BearCity.

Er nad yw’r ffilm wedi’i dangos ym Mhrydain o’r blaen – mae wedi teithio dros fôr Iwerydd ar ôl ennill adolygiadau hynod ffafriol yn yr UDA gan gynnwys gwobrau yn OUTFEST yn Los Angeles.

Fe ddaeth Douglas Langway i Gymru am y tro cyntaf yn 1995 ar gyfer dangosiad o’i ffilm Raising Heroes, fel rhan o Ŵyl Ffilm Aberystwyth.

“Os oedd gennych chi unrhyw ragdybiaethau ynglŷn â’r bear community, meddyliwch eto,” meddai Berwyn Rowlands.

“Mae’r ffilm hon yn archwilio’r pwysau i gydymffurfio, treialon perthnasau hirdymor a’r modd y gellir ailddarganfod cyfeillgarwch yn y mannau mwya’ annisgwyl.”