Mae chwaraewr y Crusaders, Jarrod Sammut wedi galw ar gefnogwyr y clwb o bob cwr o Gymru i roi hwb i’r tîm wrth iddyn nhw wynebu Hull KR yn eu gêm hollbwysig yn y Super League ddydd Sadwrn.
Fe fydd yn rhaid i dîm Brian Noble guro Hull KR ar y Cae Ras i gael unrhyw obaith o gyrraedd rownd wyth ola’r Super League.
Ar hyn o bryd, mae’r clwb Cymreig yn nawfed yn y tabl, gyda’r un nifer o bwyntiau â Castleford, sy’n hawlio’r wythfed safle.
Fe fydd Castleford oddi cartref yn erbyn St Helens, sy’n ail yn y tabl yn eu gêm olaf hwy o’r tymor arferol.
Meddai Sammut…
Mae’r mewnwr, Sammut yn obeithiol y bydd cefnogwyr yn llenwi’r Cae Ras er mwyn helpu’r chwaraewyr i sicrhau’r fuddugoliaeth.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n cael torf dda yn erbyn Hull KR,” meddai Jarrod Sammut.
“R’yn ni’n gobeithio y bydd y cefnogwyr tu cefn i ni ddydd Sadwrn. Fe fydd gorffen yn yr wyth uchaf yn beth mawr i ni, y clwb, cefnogwyr a chwaraeon yng Nghymru.”
Edrych ymlaen
Fe fethodd Sammut gêm ddiwetha’r Crusaders yn erbyn St Helens gydag anaf, ond mae’n edrych ymlaen i wynebu Hull KR dydd Sadwrn.
“R’yn ni wedi cael ychydig o amser i ffwrdd ac mae rhai o’r bois wedi bod yn cymryd yr amser i wella o anafiadau,” meddai.
“Rwy’n methu aros cyn chwarae yn erbyn Hull KR, ac rwy’n gobeithio y galla’ i wneud gwahaniaeth.”