Fe fydd dau amddiffynnwr ar goll o garfan dan-21 Cymru ar gyfer eu gemau rhagbrofol hollbwysig yn erbyn Hwngari a’r Eidal.
Mae Christian Ribeiro ac Ashton Taylor allan o’r gemau gyda hyfforddwr y tîm, Brian Flynn, yn dewis David Stephens o Hibernian a Daniel Alfei o Abertawe i gymryd eu lle.
Fe fydd Cymru yn wynebu Hwngari ar 4 Medi cyn herio’r Eidal dridiau yn ddiweddarach.
Cymru ar y brig
Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig y tabl – un pwynt o flaen Hwngari, a tri ar y blaen i’r Eidal, gyda dwy gêm yn weddill.
Fe fydd y tîm sy’n gorffen ar frig y tabl yn mynd ymlaen i chwarae yn y gemau ail gyfle i geisio ennill eu lle yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn Nenmarc y flwyddyn nesa’.
Fe fydd Cymru’n gobeithio mynd gam ymhellach y tro hwn, ar ôl colli i Loegr yn y gemau ail-gyfle ddwy flynedd yn ôl.