Mae gobeithion Morgannwg o ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd wedi cael hwb ar ôl i Swydd Derby guro Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Fe fyddai buddugoliaeth i Swydd Gaerloyw fod wedi cynyddu’r pwysau ar Forgannwg sy’n ail yn y tabl ar hyn o bryd.

Er mai dim ond 44 o rediadau sgoriodd Swydd Derby yn eu batiad cynta’, fe fethodd Swydd Gaerloyw â manteisio ar hynny.

Sgoriodd Swydd Gaerloyw 156 yn eu batiad cynta’, cyn i Swydd Derby sefydlogi eu batio gydag ail fatiad o 236.

Fe gafodd ail fatiad y tîm cartref ei chwalu am 70 o rediadau yn unig, gyda Swydd Derby yn sicrhau’r fuddugoliaeth o 54 rhediad.

Fe fydd Morgannwg yn gobeithio sicrhau dyrchafiad gyda chanlyniadau da yn eu dwy gêm olaf o’r tymor yn erbyn Surrey yn yr Oval ac yna yn erbyn Swydd Derby yng Nghaerdydd.