Gallai prisiau tai gwympo eto, rhybuddiodd economegwyr, wrth i ffigyrau ddangos bod y farchnad yn parhau i fod yn dawel iawn.

Daw’r rhybudd wedi i Fanc Lloegr gyhoeddi mai 48,722 o forgeisi a gafodd eu cymeradwyo yn ystod mis Gorffennaf eleni.

Er bod hyn ychydig yn uwch nag ym mis Mehefin, mae’n parhau i fod dipyn yn is na’r 70,000 i 80,000 sy’n cael ei gymryd fel arwydd o farchnad sefydlog.

Ail gwymp

Mae Andrew Goodwin, sy’n ymgynghorydd economaidd gyda Chlwb ITEM Ernst & Young, wedi rhybuddio y gallai’r farchnad dai fod yn anelu am ail gwymp.

Mae’n dweud bod y ffigyrau yma’n rhoi arwydd da o dueddiadau’r farchnad, a’u bod yn dangos “yn glir” y bydd prisiau yn cwympo dros ail hanner 2010 ac yn chwarter cynta’ 2011.

Mae’n debyg bod y prinder tai ar y farchnad wedi bod yn cynnal prisiau, ac mae cael gwared ar becynnau gwybodaeth Hips wedi golygu bod mwy ar y farchnad eto; ond dyw prisiau ddim wedi cynyddu hefyd.

Mae’r farchnad wedi ei chlymu ymhellach am fod banciau’n parhau’n gyndyn o roi benthyg arian i bobol sydd eisiau prynu tai.

Cwymp

Ffigurau Banc Lloegr yw’r diweddaraf i ddangos sefyllfa fregus y farchnad dai, sydd wedi methu â manteisio ar hwb traddodiadol gwyliau’r haf.

Roedd ffigyrau gan Nationwide ar gyfer mis Gorffennaf wedi dangos 0.5% o gwymp mewn prisiau tai, tra bod Halifax wedi cyhoeddi cwymp yn ystod pedwar allan o saith mis eleni.