Mae Clwb Rasio Harnes Prydain – y BHRC – wedi cadarnhau bod record Brydeinig wedi ei thorri mewn ras a gafodd ei ddangos yn fyw ar raglen Rasus S4C o Ddyffryn Aman yn gynharach yn yr wythnos.

Cafodd y record ei thorri yn ystod rownd ddiweddaraf cystadleuaeth Crochan Aur S4C wrth i’r march Doonbeg redeg milltir mewn un funud a 53.7 eiliad – gan dorri’r record Brydeinig.

Darlledwyd y ras fel rhan o’r gyfres Rasus ar S4C a oedd yn darlledu’n fyw o Noson y Merched yng Nghlwb Trotian Dyffryn Aman yn Sir Castell-nedd Port Talbot. Mae’n bosib ei gwylio fan hyn.

Mae Doonbeg yn cael ei hyfforddi yn Iwerddon gan ei berchennog Christy Dunne, a’i fab Jonathan oedd yn gyrru. Cafodd Doonbeg yrfa lwyddiannus yn ei gartref yng Nghanada ac yna yn yr UDA.

Bu’n rhaid i’r ceffyl ymddeol yn ifanc oherwydd problemau iechyd, ond mae dulliau hyfforddi naturiol y teulu Dunne wedi rhoi ail wynt i yrfa Doonbeg.

“Roedd hi’n noson fythgofiadwy o rasio trotian ac roedd gweld record Brydeinig yn cael ei thorri yn fyw ar Rasus yn brofiad gwych,” meddai Geraint Lewis, cynhyrchydd y gyfres Rasus.

“Nid y ceffyl hynod hwn yn unig sy’n haeddu’r clod ond hefyd Clwb Trotian Dyffryn Aman sydd wedi meithrin y trac cymharol newydd yma yn ofalus iawn dros y pedair blynedd diwethaf.”

Dywedodd Eric Jones o Glwb Trotian Dyffryn Aman eu bod nhw’n falch bod y record wedi ei thorri ar eu trac nhw.

“Llongyfarchiadau i’r perchnogion a’r gyrrwr ac rydw i’n falch iawn ein bod ni wedi cael bod yn rhan o greu record Brydeinig newydd,” meddai Eric Jones.

“Rydym ni’n gobeithio gweld record neu ddwy arall yn cael eu torri yma yn y dyfodol.”