Mae sylfaenydd gŵyl delynau newydd yng Nghymru wedi dweud wrth Golwg 360 yr hoffai ei weld yn datblygu’n ŵyl debyg i Ŵyl Delynau Caeredin.

Y nod fydd derbyn ystod eang o bobol i fwynhau offeryn sy’n cael ei ystyried yn “elitaidd” oherwydd ei chost, meddai Shelly Fairplay.

Dywedodd Shelly Fairplay, sylfaenydd Gŵyl Delynau’r Haf yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, mai’r gobaith yw gweld yr ŵyl newydd eleni’n “datblygu” i fod yn rywbeth mwy.

Fe gafodd Gŵyl Caeredin ei sefydlu yn 1982 ac erbyn hyn mae’n cynnig ystod eang o weithgareddau i apelio at bobol gyffredin a cherddorion profiadol.

Dywedodd Shelly Fairplay mai’r gobaith yw y bydd yr ŵyl newydd yn “ysbrydoli a codi ymwybyddiaeth” yn ogystal ag “apelio at gynulleidfa eang”.

Ond ni fydd dim cystadlu yn yr ŵyl newydd, meddai. “Nod yr ŵyl fydd rhannu syniadau a mwynhau,” meddai Shelly Fairplay sy’n chwarae’r delyn yn broffesiynol.

“Dylai bod gan Gymru ŵyl fel sydd yng Nghaeredin. Dwi’n meddwl bod gan gystadlu le pwysig – ond nid pawb sy’n cael eu denu gan gystadlu.”


Elitaidd

Fe ddywedodd y delynores fod chwarae’r delyn yn “gallu bod yn beth elitaidd” oherwydd “cost a maint” yr offeryn.

Mae dod a’r offeryn a cherddoriaeth i sylw’r cyhoedd yn “rhywbeth dwi’n teimlo’n angerddol amdano,” meddai.

Yn y dyfodol, mae’n gobeithio gweld yr ŵyl yn datblygu yn un “hirach” meddai gan gyfeirio at ŵyl sy’n bedwar neu bum diwrnod o hyd.

Fe ddywedodd yr hoffai weld yr ŵyl yn datblygu’n rhywbeth “tebyg i’r Eisteddfod gyda phebyll” gan fod “digon o le” yn yr ardd Fotaneg.