Ni fydd y A487 rhwng Porthmadog a Tremadog yn cael ei chau wrth i’r Llywodraeth fwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu ffordd osgoi, meddai’r Llywodraeth heddiw.

Roedd y cynllun i gau’r ffordd wedi pryderu perchnogion busnes yn Nhremadog oedd yn ofni na fyddai neb yn teithio drwy’r pentref.

Ond cadarnhaodd Llywodraeth y Cynulliad heddiw na fyddai’r A487 rhwng Porthmadog a Tremadog yn cael ei gau wrth iddyn nhw fwrw ymlaen gyda’r gwaith adeiladu.

“Yn dilyn ymgynghori gyda phobl leol a pherchnogion busnes, rydym ni’n ffafrio arwyddion rheoli traffig, yn hytrach na chau’r ffordd dros dro ac ailgyfeirio traffig am dri mis.

“Bydd goleuadau traffig yn cael eu gosod ym mis Medi am gyfnod o hyd at bedwar mis.”

‘Rhyddhad’

Dywedodd Peta Panter o’r Union Inn yn Nhremadog fod y cyfan yn “rhyddhad”.

Wrth sôn am y sefyllfa dywedodd fod y “darlun ehangach” yn bwysig hefyd a’r ffaith y “gallai busnesau fod wedi mynd oddi tano”.

“Rydan ni’n dibynnu ar dwristiaid,” meddai cyn dweud fod angen sicrhau “nad yw pobl yn colli eu swyddi”.

“Mae pawb yn falch yn Nhremadog,” meddai Alwena Jones, Perchennog siop Sglodion Sglod a Cod.

“Roedden ni ofn na fyddai neb yn dod i Dremadog ac y byddan ni’n colli 50% o bobl Port neu hyd yn oed fwy,” meddai.

Cymdeithas

“Mae’n newyddion gwych i drigolion Tremadog” meddai Lorraine Pead sy’n berchen bwyty Y Sgwâr yn Nhremadog cyn dweud y byddai “cau’r ffordd wedi bod yn niweidiol” i fusnesau’r pentref.

Ond dywedodd fod y cyfan wedi dod a’r gymdeithas yn Nhremadog yn “agosach at ei gilydd”.

Fe ddisgrifiodd y penderfyniad fel yr un “orau posibl, ond yr unig un a ddylen nhw fod wedi’i ystyried”.