Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud mai buddsoddwyr y clwb o Falaysia sy’n talu cyflog cytundeb Craig Bellamy.
Roedd Bellamy eisoes wedi cadarnhau nad oedd ei gyflog wedi lleihau ar ôl ymuno gyda’r Adar Glas.
Mae capten Cymru yn cael ei dalu tua £75,000 yr wythnos yn ogystal â £15,000 ychwanegol am bob ymddangosiad.
Mae ar ddeall mai Man City sy’n talu rhan sylweddol o’i gyflog, tua £50,000, gyda Chaerdydd yn talu’r gweddill.
“Mae rhai pobl siŵr o fod yn genfigennus. Dyw arwyddo Craig Bellamy heb effeithio ar y cyllid sydd ar gael i mi brynu chwaraewyr,” meddai rheolwr Caerdydd.
Mae Prif Weithredwr Caerdydd wedi cadarnhau bod y clwb wedi talu hanner y swm sy’n ddyledus i Motherwell ar ôl y cynnydd yng nghyllid y clwb yn dilyn y cyhoeddiad bod Bellamy wedi ymuno.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr y bydd Caerdydd wedi talu’r hanner arall i Motherwell o fewn saith diwrnod.