Mae hyfforddwr tîm dan 21 Cymru, Brian Flynn wedi enwi’r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Hwngari a’r Eidal yng ngemau rhagbrofol olaf yr ymgyrch.

Mae pump o chwaraewyr Abertawe wedi eu cynnwys yn y garfan 20 dyn, sef David Cornell, Ashley Richards, Neil Taylor, Joe Allen a Shaun MacDonald.

Mae amddiffynnwr Caerdydd, Adam Matthews yn y garfan yn ogystal ag amddiffynnwr Dinas Bryste, Christian Ribeiro.

Mae ymosodwr Reading, Hal Robdon-Kanu ymysg yr ymosodwyr.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig y tabl, un pwynt ar y blaen i Hwngari a thri o flaen yr Eidal.

Fe fydd enillydd y grŵp yn mynd ‘mlaen i chwarae yn y gemau ail gyfle er mwyn ceisio sicrhau eu lle yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn Denmarc.

Carfan Cymru

David Cornell (Abertawe), Chris Maxwell (Wrecsam) Tom Bender (Colchester Utd), Adam Matthews (Caerdydd), Aaron Morris (Tref Aldershot), Christian Ribeiro (Dinas Bryste), Ashley Richards (Abertawe), Ashton Taylor (Tranmere Rovers), Neil Taylor (Abertawe) Joe Allen (Abertawe), Billy Bodin (Swindon), Mark Bradley (Rotherham Utd), Ryan Doble (Southampton), Shaun MacDonald (Abertawe), Joe Partington (Bournemouth), Jonathan Williams (Crystal Palace) Elliott Chamberlain (Caerlŷr), Hal Robson-Kanu (Reading), Jake Taylor (Reading), Marc Williams (Kidderminster Harriers)