Mae canlyniadau Lefel A ac AS Cymru’n dangos bwlch cynyddol o’i gymharu â gweddill Ynys Prydain, datgelwyd heddiw.

Mae llai o ddisgyblion yng Nghymru yn cael y graddau Lefela ac AS uchaf o’i gymharu â gweddill gweddill Prydain.

A dywedodd CBAC bod nifer y disgyblion oedd wedi ennill gradd A mewn Lefel-AS wedi syrthio o ychydig am yr ail flwyddyn yn olynol yng Nghymru.

Cafodd gradd A* ei gyflwyno eleni i nodi “cyflawniad eithriadol” myfyrwyr. Yng Nghymru, dyfarnwyd y radd A* i 6.5% o holl gofrestriadau pwnc yr ymgeiswyr, ac enillodd 24.4% radd A neu A*.

Y ffigurau cyfatebol ar gyfer y DU yw 8.1% a 27.0%. Enillodd 8.1% o ddisgyblion Lloegr radd A*.

Yn gyffredinol, bu gostyngiad bach yng nghanran yr ymgeiswyr yng Nghymru a enillodd raddau A-E, o 97.6% yn 2009 i 97.1% eleni.

Bu mân ostyngiad hefyd yng nghyfran yr ymgeiswyr yn ennill graddau A, o 25.0% y llynedd i 24.4% eleni.

“Mae’r ymgeiswyr eleni wedi llwyddo trwy weithio’n galed a chyson a chael cefnogaeth ymroddedig eu hysgolion, eu colegau a’u darparwyr hyfforddiant,” meddai Gareth Pierce, prif weithredwr CBAC.

“Cyn gynted ag y bydd y data wedi’u dadansoddi ymhellach, bydd CBAC yn awyddus i archwilio blaenoriaethau at y dyfodol gyda phartneriaid sy’n ymwneud â chefnogi dysgu 16-19 yng Nghymru.”

Cyfanswm y cofrestriadau arholiad Lefel-A yng Nghymru eleni oedd 37,315, i lawr 2.9% o’r nifer a gofrestrwyd y llynedd, sydd fwy neu lai’n cyd-fynd â’r gostyngiad ym mhoblogaeth y grŵp oedran.

Ieithoedd yn dioddef

Dioddefodd Cymraeg Ail Iaith o gwymp mawr yn nifer y disgyblion oedd yn ei astudio eleni, gyda 16.6% yn llai yn astudio Lefel-A ynddo.

Roedd cwymp hefyd yn y nifer oedd yn astudio Saesneg a Hanes, dau o’r pynciau sydd fwyaf poblogaidd yn gyson. Bu cynnydd yn nifer y cofrestriadau am Fathemateg a Bioleg, y ddau bwnc arall yn y pedwar uchaf yng Nghymru.

Parhau wnaeth y tuedd ar i lawr am gofrestriadau mewn Ieithoedd Tramor Modern (ITM): gostwng wnaeth cofrestriadau Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg Ail Iaith. Bu’r gostyngiad canrannol mwyaf mewn Ffrangeg a Sbaeneg (ill dau’n 17.9%).

Bechyn a Merched

Roedd perfformiad bechgyn a merched eleni’n debyg iawn ar y graddau uwch, gyda 6.5% o ferched a 6.6% o fechgyn yn ennill y graddau A* uchaf, a 24.5% a 24.3% yn ennill graddau A.

Yn gyffredinol, mae merched yn parhau i berfformio’n well na’r bechgyn yng Nghymru, gyda 97.5% o’r cofrestriadau pwnc gan ferched yn ennill graddau A-E, o’i gymharu â 96.5% o’r bechgyn i gyd, er bod y bwlch rhwng y ddau eleni, sef 1.0%, fymryn yn llai na’r llynedd oedd yn 1.3%.

Mae’r bwlch ehangaf ar y graddau B, C, D canolradd lle mae merched yn perfformio’n well na bechgyn o 3 i 4 pwynt canrannol.