Mae BMA Cymru wedi beirniadu’r diwydiant baco am geisio atal deddfwriaeth a fyddai’n rhwystro siopau rhag dangos sigaréts yn gyhoeddus.
Mae’r rheolau eisoes wedi cael eu derbyn o dan Ddeddf Iechyd 2009 ac maen nhw’n cael eu hadolygu gan wleidyddion ar hyn o bryd.
Ond mae’r gymdeithas feddygol yn cyhuddo’r diwydiant tybaco o lobïo i’w hatal rhag cael eu cyflwyno.
Byddai’r rheolau yn gorfodi siopau i gadw cynnyrch tybaco o’r golwg ac yn gwahardd eu gwerthu trwy beiriannau.
‘Cau bylchau’
Byddai hyn yn ôl BMA Cymru, yn cael gwared â bylchau yn y gyfraith sy’n caniatáu hysbysebu tybaco i blant.
“Bydd rheoleiddio cryf yn helpu i ddiogelu plant ac yn eu hatal rhag dechrau ysmygu,” yn ôl Dr Richard Lewis, Ysgrifennydd y BMA yng Nghymru. “Ysmygu yw prif achos afiechyd a marwolaeth o hyd yn y Deyrnas Gyfunol.
“Mae’n hanfodol gwahardd arddangos tybaco mewn mannau gwerthu – mae’n awgrymu bod defnyddio tybaco’n beth normal, yn enwedig os yw pecynnau’n cael eu gosod wrth ymyl nwyddau sy’n cael eu defnyddio bob dydd.”
Mae’r meddygon yn galw ar y Llywodraeth i ddangos arweiniad.
Rheolau Cymru
O dan y ddeddf, mae gan Gymru’r hawl i greu ei rheolau ei hunain ac yn ôl y Llywodraeth yng Nghaerdydd, mae’r broses wedi dechrau.
Roedd yna gyfnod o ymgynghori ynghynt eleni ac mae gweinidogion bellach yn ystyried yr ymateb.
“Rydyn ni’n croesawu sylwadau BMA Cymru gan eu bod yn atgoffa pobol am beryglon ysmygu a’r angen i leihau nifer y bobol sy’n ysmygu.”