Mae tarw oedd yn rhan o ornest recortadores yn nhref Tafalla, Sbaen, wedi anafu o leiaf 40 o bobol.
Roedd yn rhan o gêm ble’r oedd pobol yn sefyll mewn talwrn ac yn ceisio osgoi tarw blin oedd wedi ei ryddhau i mewn.
Ond llwyddodd y tarw i ddianc dros ffens a rhedeg drwy’r eisteddle gan ymosod ar aelodau o’r dorf oedd yn gwylio’r sioe.
Cafodd y rhan fwyaf o’r dioddefwyr eu trin am fân anafiadau yn y fan a’r lle, ond fe aethpwyd a phump ohonyn nhw i’r ysbyty, gan gynnwys bachgen 10 oed oedd ag anafiadau difrifol i’w stumog.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y tarw ei ddal a’i gludo o’r adeilad gyda chraen, cyn cael ei ddifa.
Mae dadlau ffyrnig yn Sbaen yn ddiweddar ynglŷn ag a ddylen nhw barhau i gynnal y gornestau ai peidio.
Fis diwethaf penderfynodd Catalonia wahardd yr arfer o frwydro teirw, gan ddweud ei fod o’n gas i’r anifeiliaid.
Llun: (AP Photo/ETB drwy APTN)