Fe fydd rheolwyr Cwrs Rasio Ffoslas yn ceisio cael cyfarfod brys gyda threfnwyr y byd rasio ceffylau er mwyn ceisio atal toriadau mawr yn rhaglen ddigwyddiadau’r cwrs.

Mae’r cwrs newydd ger Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin mewn peryg o golli 12 o’r 28 o ddyddiau rasio oedd ganddo eleni wrth i Gymdeithas Rasio Ceffylau Prydain dorri ar nifer y cyfarfodydd trwy wledydd Prydain.

Mae’n debyg y bydd gostyngiad o 150 i gyd yn y dyddiau rasio.

Gofyn am drafodaethau

Fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cwrs, Tim Long, wrth Radio Wales y bydden nhw’n gwneud eu gorau i geisio lleihau effeithiau’r toriadau.

“Rydyn ni’n mynd i ofyn am drafodaeth ar unwaith gyda’r holl bobol berthnasol,” meddai, cyn pwysleisio nad oedd y busnes mewn peryg.

“Mae’r tyrfaoedd wedi eu cynnal,” meddai, “ac mae’r ochr gorfforaethol yn gwneud yn dda.”

Dim ond y llynedd yr agorodd y cwrs rasio ar hen safle gwaith brig yng Nghwm Gwendraeth. Mae yna 28 o gyfarfodydd rasio yno eleni ac mae’r nesa’ ddydd Mercher.