Mae disgwyl y bydd y rhan fwyaf o filwyr ymladd yr Unol Daleithiau yn gadael Irac heddiw.

Cyrhaeddodd y frigâd olaf Kuwait yn gynnar bore ma, ar ôl gyrru 300 milltir o’r brifddinas. Mae ambell aelod o’r fyddin wedi aros yn Baghdad er mwyn cwbwlhau gwaith gweinyddol ond fe fydden nhw’n gadael ryw ben heddiw.

Roedd yr Arlywydd Barack Obama wedi dweud y byddai pob un milwr ymladd wedi gadael y wlad erbyn 31 Awst.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi dweud mai dyma ddiwedd y rhyfel i’r Americanwyr, ac wedi cyhoeddi bod ymgyrch Operation Iraqi Freedom yn dod i ben ar ôl saith mlynedd o frwydro.

Ond bydd tua 56,000 o filwyr yn aros yn y wlad tan ddiwedd 2011 fel rhan o’u hymgyrch newydd, Operation New Dawn.

Bydd y milwyr yma’n cynghori a hyfforddi lluoedd arfog y wlad. Fe fydd gyda nhw arfau er mwyn amddiffyn eu hunain, ac fe fydden nhw’n barod i’w defnyddio ar gais awdurdodau Irac.

Yn ôl yr Americanwyr, mae eu dyletswydd yn y wlad wedi newid o un milwrol i un diplomyddol, gyda’r nod o enyn heddwch yn y wlad.

Dywedodd un milwr, Luke Dill, wrth gyrraedd y ffin gyda Kuwait ei fod o’n un o’r milwyr oedd wedi cyrraedd Irac gyntaf ar ddechrau’r rhyfel yn 2003.

Roedd o’n 18 oed bryd hynny ac mae o bellach yn 25, meddai wrth yr Associated Press.

“Mae’n rywbeth y fyddai’n falch ohono am weddill fy mywyd – y ffaith fy mod i’n rhan o’r ymosodiad gwreiddiol ac nawr yn gadael gyda’r olaf o’r milwyr brwydro,” meddai.

Mae 4,415 o filwyr o’r Unol Daeleithiau wedi marw yn Irac hyd yn hyn.