Fe allai’r Twrnai Cyffredinol ymyrryd i alw am gwest i farwolaeth y gwyddonydd o Gymru, David Kelly – os bydd yna dystiolaeth newydd ar gael.

Mae Dominic Grieve wedi dweud wrth bapur y Daily Telegraph ei fod yn fodlon ymyrryd oherwydd yr amheuon sydd wedi’u codi ynglŷn ag achos yr arbenigwr arfau a anwyd yn y Rhondda.

Y cyn Ysgrifennydd Cartref Michael Howard yw un o’r rhai sydd wedi galw am gwest i farwolaeth y dyn a ddatgelodd wybodaeth gyfrinachol a chodi amheuon am resymau gwledydd Prydain tros fynd i ryfel yn Irac.

Roedd ymchwiliad gan yr Arglwydd Hutton wedi penderfynu bod David Kelly wedi ei ladd ei hun trwy dorri ei arddwrn a chymryd gorddos o gyffuriau.

Ond mae rhai arbenigwyr meddygol wedi herio hynny gan ddweud fod yr esboniad yn “annhebygol” – er bod eraill yn cefnogi’r casgliadau.

‘Pwynt teg’

“Fe fyddwn i’n hoffi gallu datrys hyn mewn ffordd sy’n rhoi sicrwydd i’r cyhoedd,” meddai Dominic Grieve. “Efallai bod pwynt teg gan y bobol sydd wedi mynegi pryder nad oedd yr Arglwydd Hutton wedi tynnu pob llinyn ynghyd.”

Ond fe bwysleisiodd hefyd y byddai’n rhaid cael tystiolaeth newydd cyn gallu galw am gwest – fe allai hynny ddibynnu ar gyhoeddi dogfennau meddygol yr oedd yr Arglwydd Hutton wedi gorchymyn eu cadw’n gudd.