Mae gwyddonwyr yn astudio wrin dynol er mwyn gweld a allai gael ei ddefnyddio i bweru ceir, llongau tanfor a bob math o bethau eraill, datgelodd prifysgol heddiw.
Mae’r ymchwilwyr o Brifysgol Heriot-Watt, Caeredin eisiau profi a ydi wrin yn cynnig dewis sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd na hydrogen fflamadwy a methanol gwenwynig.
Yn ôl y gwyddonwyr mae wrin yn cynnwys carbamid, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio i ryw raddau mewn cerbydau nwyddau trwm er mwyn lleihau eu hallyriadau gwenwynig.
Mae Dr Shanwen Tao a’i bartner ymchwil Dr Rong Lan wedi cael £130,000 er mwyn datblygu sustem bŵer sy’n rhedeg ar wrin.
Maen nhw’n ei weld o’n cael defnydd mewn llongau tanfor ac er mwyn creu trydan mewn ardaloedd diarffordd. Fe fyddai hefyd yn ffordd o ail-gylchu wrin sy’n cael ei wastraffu fel arall.
“Wrth gael fy magu yn nwyrain China roeddwn i eisoes yn ymwybodol bod wrin yn cael ei ddefnyddio er mwyn tyfu cnydau,” meddai Shanwen Tao.
“Y gobaith yw y bydd y deunydd adnewyddadwy yma yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell egni ymarferol ac amgylcheddol gyfeillgar.”