Mae clwb Caerdydd wedi taro’n ôl wrth i’r Gynghrair Bêl-droed godi cwestiynau am eu gallu i arwyddo Craig Bellamy.

Os na fydd y broblem yn cael ei datrys yn gyflym, fe allai rwystro capten Cymru rhag chwarae yng ngêm nesa’r clwb yn erbyn Doncaster.

Ddoe, fe ddywedodd Cadeirydd y Gynghrair, Greg Clarke, ei fod wedi gofyn am fanylion pellach gan Gaerdydd cyn caniatáu i Bellamy gael ei gofrestru.

Ar deledu Sky Sports, fe ddywedodd na fyddai’n fodlon i unrhyw glwb gymryd cyfrifoldebau na fedren nhw eu fforddio.

Mae gan Gaerdydd ddyledion o tua £30 miliwn ac, er ei fod yn dod ar fenthyg ac am ddim, mae cyflog Craig Bellamy tua £95,000 yr wythnos.

Caerdydd yn taro’n ôl

Mae’r clwb wedi condemnio penderfyniad Greg Clarke i wneud sylwadau cyhoeddus am y mater, cyn iddyn nhw gael cyfle i ymateb.

“Rydyn ni’n gwbl hyderus fod y fargen yma’n gweithio, o ran busnes a chwaraeon,” meddai datganiad swyddogol gan Gaerdydd.

Mae’r cytundeb, medden nhw, wedi ei gefnogi gan y bobol fusnes o Falaysia sy’n buddsoddi yn y clwb a’r gred yw y bydd Bellamy’n cynyddu maint tyrfaoedd a gwerthiant o grysau’r clwb.

Roedd Caerdydd hefyd yn pwysleisio eu bod wedi cael gwared ar ddeg o chwaraewyr dros yr haf ac mai dim ond chwaraewyr am ddim neu ar fenthyg oedd wedi ymuno â nhw.

Llun: Craig Bellamy yng Nghaerdydd (Gwifren PA)