Mae aren wedi ei drawsblannu o rywun sydd wedi marw cystal ag aren wedi ei drawsblannu gan rywun byw, yn ôl ymchwil a ddatgelwyd heddiw.
Yn y gorffennol roedd doctoriaid wedi meddwl bod aren gan rywun oedd dal yn fyw ond ag ymennydd marw yn well nag aren gan rywun oedd â chalon oedd wedi atal.
Mae doctoriaid yn credu y bydd yr ymchwil yn arwain at ddyblu nifer yr arennau sydd ar gael i bobol sydd eisiau trawsblaniad, gan roi gobaith newydd i filoedd o gleifion.
Mae mwy nag 7,000 o ddynion a merched ym Mhrydain yn disgwyl am drawsblaniad aren.
Mae bron i un mewn 10 o’r rheini yn marw bob blwyddyn am nad oes modd dod o hyd i aren ar eu cyfer nhw.
Roedd yr ymchwilwyr wedi dadansoddi data o fwy nag 9,100 o drawsblaniadau arennau mewn 23 canolfan ym Mhrydain. Cafodd 8,289 eu rhoi ar ôl i ymennydd y rhoddwr farw a 845 ar ôl i galon y rhoddwr atal.
Cyhoeddwyd y darganfyddiadau yn nyddlyfr meddygol The Lancet, heddiw.
“Mae rhoddwyr arennau sydd wedi marw yn cynrychioli ffynhonnell bwysig a heb ei lawn werthfawrogi o arennau o’r safon uchaf,” meddai arweinydd yr ymchwil, yr Athro Andrew Bradley.
“Mae gan yr ymchwil y potensial i gynyddu o gryn dipyn nifer y trawsblaniadau arennau sy’n digwydd ym Mhrydain.”
Ers y 70au mae’r rhan fwyaf o organau sydd wedi eu trawsblannu wedi dod o roddwyd sydd wedi dioddef o anafiadau mawr i’w pennau.
Dros y degawd diwethaf mae eu niferoedd wedi disgyn wrth i fwy o bobol wisgo helmedau wrth deithio ar feiciau modur, ac wrth i ddoctoriaid ddatblygu gwell triniaethau i bobol sy’n goroesi damweiniau.