Fe fydd yn rhaid i Forgannwg cipio nifer o wicedi cyflym i gael unrhyw obaith o ennill eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Middlesex.

Mae’r tîm o Lundain o fewn 50 rhediad i fuddugoliaeth, gyda chwe wiced ar ôl ar ddechrau diwrnod ola’r gêm bedwar diwrnod.

A nhwthau ar 200-4, nhw yw’r ffefrynnau bellach ac fe fyddai colli’n debyg o daro Morgannwg oddi ar frig yr Ail Adran.

Robert Croft yw’r bowliwr mwya’ llwyddiannus hyd yn hyn yn ail fatiad y Saeson, gyda dwy wiced am 52 rhediad ond fe fydd angen iddo ef neu un o’r lleill gael gwared yn fuan ar Dawid Malan sydd wedi croesi’r hanner cant.

Y sgoriau hyd yma: Morgannwg 198 a 232; Middlesex 181 a 200-4.

Llun: Robert Croft – angen wicedi