Mae’r bwlch digidol yn cau rhwng Cymru a gweddill gwledydd Prydain a chefn gwlad sy’n arwain.

Dyna un o’r prif gasgliadau yn arolwg blynyddol y corff sy’n cadw llygad ar y cyfryngau, Ofcom.

Mae hefyd yn dangos fod pobol trwy wledydd Prydain yn treulio hanner eu horiau effro’n defnyddio rhyw fath o gyfryngau electronig – o ffonau symudol i gyfrifiaduron, teledu a radio.

Bandeang ar gynnydd yng Nghymru

• Erbyn hyn, mae 64% o gartrefi Cymru’n derbyn gwasanaeth bandeang o’i gymharu â 71% trwy’r Deyrnas Unedig – ond roedd y blwch wedi cau 3 phwynt rhwng 2008 a 2009.

• Mae mwy o bobol yr ardaloedd gwledig yn gwneud mwy o ddefnydd o’r cyfryngau newydd, er bod gwasanaethau’n brinnach ac arafach. Mae 93% o bobol ardaloedd gwledig Cymru’n berchen ar ffôn symudol – uwch na’r cyfartaledd trwy’r Deyrnas Unedig.

• O ran ffonau symudol, mae Cymru ar y blaen – gyda mwy o gartrefi’n dibynnu’n llwyr ar y dechnoleg newydd yn hytrach na ffonau hen ffasiwn – 19% o’i gymharu â 14% trwy’r DU.

• Mae 16% o bobol Cymru yn defnyddio bandeang symudol – ar eu ffonau – a hynny’n gynnydd o 5 pwynt mewn blwyddyn.

• Roedd yna gynnydd o 50% yn y defnydd o wefannau cymdeithasol yng Nghymru hefyd – mae 37% o’r bobol bellach yn cymryd rhan ar y rheiny, gyda’r defnydd yn uwch yn y Gogledd a’r Canolbarth.

• Radio digidol yw un maes lle mae Cymru ar ei hôl hi – dim ond 29% sydd wedi prynu radio DAB newydd o gymharu â 38% trwy’r DU.

Mwy cyfarwydd

Yn gyffredinol, mae arwyddion bod pobol yn dod yn fwy a mwy cyfarwydd gyda’r dechnoleg fodern, gyda llawer yn defnyddio mwy nag un o’r cyfryngau yr un pryd.

Mae pobol ifanc, er enghraifft, yn gallu gwasgu ychydig llai na phum awr o ddefnydd o’r cyfryngau i mewn i ychydig llai na dwyawr o amser.

Erbyn hyn, mae pobol gwledydd Prydain yn anfon pedair gwaith yn fwy o negeseuon testun nag yr oedden nhw yn 2004.

‘Anghenraid nid moethusrwydd’

Dyma a ddywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Mae’n braf gweld bod y bwlch digidol rhwng Cymru a’r DU yn cau. Mae gwasanaethau cyfathrebu yn prysur ddod yn anghenraid yn hytrach na moethusrwydd i ddefnyddwyr a busnesau o Fôn i Fynwy. Er bod ein hadroddiad yn dangos bod sialensiau sydd eto i’w goresgyn, rydym yn symud yn ein blaenau’n gadarnhaol.”

Llun: Y tu mewn i ffôn symudol