Mae cyn brif was sifil Cymru wedi cael ei ddewis i roi trefn ar y ffordd y mae S4C yn cael ei llywodraethu.

Fe fydd Syr Jon Shortridge yn cynnal adolygiad o’r berthynas rhwng Awdurdod y sianel a’r uwch swyddogion ar ôl helyntion y tair wythnos ddiwetha’.

Wrth gyhoeddi bod Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, yn gadael, fe ddywedodd yr Awdurdod hefyd eu bod yn cael gwared ar yr “arwahanrwydd” rhyngddyn nhw a’r tîm rheoli.

Fe gawson nhw’u beirniadu am hynny, oherwydd bod gan yr Awdurdod – casgliad o bobol sy’n cael eu dewis gan y Llywodraeth – gyfrifoldeb i gadw llygad ar waith y sianel.

Doedd dim manylion chwaith sut yn union y byddai’r drefn newydd yn gweithio – yn ôl un o gyn benaethiaid y sianel, roedd peryg i Gadeirydd yr Awdurdod droi’n fath o Brif Weithredwr.

‘Adeiladu ar arfer da’

Yn ôl datganiad gan y sianel heddiw, fe fydd Syr John yn “adeiladu ar arfer da presennol” ac yn gwneud argymhellion yn unol â’r “datblygiadau cyfredol” yn y ffordd y mae cyrff modern yn cael eu rheoli.

Mae’r datganiad hefyd yn gwneud yn glir beth yw rôl yr Awdurdod dan gadeiryddiaeth cyn was sifil arall, John Walter Jones.

“Mae’r Awdurdod yn atebol am gynnyrch S4C ac am reolaeth gywir S4C,” meddai. “Nid yw’r Awdurdod yn ymwneud ag unrhyw benderfyniadau a wneir o ddydd i ddydd.”

Syr Jon Shortridge oedd Ysgrifennydd Parhaol cyntaf y Cynulliad yn ôl yn 1999 ac, ers ymddeol yn 2008, mae wedi cael lle ar nifer o gyrff cyhoeddus.

Llun: Swyddfa’r Llywodraeth, lle’r oedd Syr Jon Shortridge yn bennaeth