Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion yn dilyn honiad o ymosodiad rhywiol ar ferch ifanc yn ardal Dinas Powys, ddydd Mercher 4 Awst.
Mae’r ferch ifanc 12 oed yn honni ei bod wedi dioddef ymosodiad rhywiol gan grŵp o fechgyn tua’r un oedran, ym Mharc sglefrio Dinas Powys, Ffordd Caerdydd, Y Barri.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw eisiau “tawelu meddwl” y cyhoedd a bod troseddau o’r fath yn “brin iawn” yn Ninas Powys.
Maen nhw’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 neu gyda ‘Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.