Fe fydd Gŵyl Jazz Aberhonddu’n aros yn y dref, cyhyd â bod yna groeso iddi, meddai’r trefnwyr newydd.
Wythnos wedi cynnal yr ŵyl lawn gynta’ o dan adain Gŵyl y Gelli, fe roddodd y Cyfarwyddwr sicrwydd i bobol leol sydd wedi bod yn poeni am ddyfodol y digwyddiad jazz.
Er bod pedair tref arall yng Nghymru wedi cynnig cynnal yr ŵyl ac er bod y rheiny’n “fwy deniadol” yn ariannol, Aberhonddu oedd ei chartref, yn ôl Peter Florence. Fe wrthododd awgrym hefyd y gallai symud i’r Gelli.
“Mae gan y Gelli ŵyl eisoes a fyddai honno ddim yn cael ei helpu trwy symud y jazz yno. Wnawn ni ddim ond symud os na fydd Aberhonddu ein heisiau ni,” meddai.
Ar ôl cymryd cyfrifoldeb am yr ŵyl gyda digwyddiad dros-dro y llynedd, mae’n credu bod yr ŵyl dros y penwythnos diwetha’ yn debyg o dalu’i ffordd, a hynny mewn cyfnod anodd.
“Roedd y gerddoriaeth yn neilltuol, ac roedd yr awyrgylch yn braf iawn. Rydyn ni’n dawel hyderus y bydd y ffigurau’n gweithio ac, yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae’r ffaith y gallai’r ŵyl fod yn gynaliadwy yn llwyddiant mawr.”
Roedd yr ŵyl eleni wedi newid yn sylweddol ers ei blynyddoedd cynnar – gyda’i chanolfan yn ysgol fonedd Coleg Crist a heb y ‘tocyn crwydro’ i fynd o gyngerdd i gyngerdd.
Doedd y cerddorion ddim yn hoffi hwnnw, meddai Peter Florence, ac roedd diffyg rheolaeth tros y mynd a’r dod yn golygu y gallai fod yn beryglus.
Roedd hefyd yn pwysleisio bod yr ŵyl wedi rhoi cyfle mawr i gerddorion jazz o Gymru trwy Brosiect Aberhonddu a fydd yn mynd â nifer o Gymry – gan gynnwys y basydd Paula Gardiner a’r pianydd Huw Warren – o amgylch y byd.
Roedd band Wonderbrass a myfyrwyr o’r Coleg Cerdd a Drama wedi cael cynulleidfaoedd llawn eleni – ynghyd â’r pianydd Gwilym Simcock a gafodd ei eni yng Nghymru.
“Mae yna ddigon o gerddorion jazz Cymreig da i chwarae ar y prif lwyfannau yn Aberhonddu am nifer o flynyddoedd heb gwympo i’r fagl o gael ‘yr un hen beth’ bob blwyddyn, sy’n ddiflas ac yn siomedig i bawb,” meddai.
“R’yn ni eisiau i’r ŵyl dyfu’n gynaliadwy a dal ati i feithrin yr artistiaid gorau sy’n codi, comisiynu mentrau newydd a chlywed ein harwyr.
“Rhaid i Aberhonddu greu hunaniaeth rhyngwladol iddi ei hun a rhaid i ni wneud hynny trwy fod yn greadigol yn hytrach na thrwy arian. Allwn ni fyth gystadlu am arian gyda gwyliau’r Eidalwyr a’r Ffrancod a’r Almaenwyr a’r Iseldirwyr lle mae buddsoddi cyhoeddus anferth gan awdurdodau lleol a noddwyr.
“R’yn ni am gymryd ychydig amser i adfer yr hyn oedd wedi troi’n gynnyrch anneniadol i noddwyr,” meddai, gan awgrymu y bydden nhw’n cefnu ar rai o arferion y gorffennol.
Tra bydd yr ŵyl yn dal i wahodd enwau mawr fel y Buena Vista Social Club a Hugh Masekela, roedd hi’n wirion talu symiau chwe ffigwr am gerddorion oedd wedi gweld eu dyddiau gorau.
“Fe fyddwn i wrth fy modd gweld Aberhonddu yn dod y lle gorau yn Ewrop i ddod o hyd i artistiaid o safon byd. Yn Sarah Dennehy, dw i’n credu fod gyda ni gyfarwyddwr artistig (sy’n byw yn Aberhonddu) a all droi hynny’n realiti.”