Mae bachgen saith oed wedi colli llygad ar ôl cael ei daro gan garreg yn ystod picnic teuluol.

Mae’r heddlu a’r adran weithredol iechyd a diogelwch yn ymchwilio i weld a gafodd y garreg ei thaflu gan beiriant torri gwair a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr ardal.

Anafwyd y bachgen ym Mharc Maslin ar Ynys y Barri, tua 2pm ar 3 Awst.

Aethpwyd â’r bachgen i’r ysbyty ac fe gafodd o lawdriniaeth, ond roedd hi’n amhosib achub ei lygad.

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am lygaid-dystion oedd yn y parc ar y pryd i gysylltu â nhw ar 101.

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg bod un o’u peiriannau torri gwair nhw yn yr ardal ar y pryd.

“Hoffwn gyfleu ein cydymdeimlad gyda’r hogyn ifanc a’i deulu,” meddai Miles Punter, pennaeth gwasanaethau gweledol.

“Mae’n amlwg yn amser anodd iawn iddyn nhw.

“Rydyn ni’n ymchwilio i’r digwyddiad ac fe fyddai’n amhriodol cynnig sylw pellach ar hyn o bryd.”