Mae’r heddlu sy’n chwilio am gorff gwas priodas a ddiflannodd wrth nofio mewn llyn yn ystod derbyniad priodas wedi dod o hyd i gorff.
Dywedodd Heddlu Swydd Stafford eu bod nhw’n gobeithio gallu dweud pwy yw’r corff yn fuan ar ôl i ddeifwyr ddod o hyd iddo mewn llyn ger Gwesty Parc Patshull yn Wolverhampton tua 7 neithiwr.
Daeth tîm tanddwr o Heddlu Swydd Nottingham i chwilio am Patrick Cody ar ôl i’r dyn 26 oed ddiflannu nos Wener. Fe alwyd y gwasanaeth brys tua 11.15pm ac fe fu hofrennydd yn chwilio amdano.
Mae teulu Patrick Cody, sy’n dod o ardal Dudley, eisoes wedi cyhoeddi datganiad yn talu teyrnged iddo. Roedd o ar fin dechrau cwrs i hyfforddi i fod yn athro ym Mhrifysgol Birmingham.
“Roedd Patrick yn fab, brawd a ffrind cyfeillgar, poblogaidd a chariadus,” meddai’r teulu.
“Roedd yn frwdfrydig ynglŷn â cherddoriaeth a llenyddiaeth ac roedd ganddo synnwyr digrifwch bywiog. “