Mae heddlu De Cymru wedi rhyddhau llun o ddyn y maen nhw am ei holi mewn cysylltiad â llofruddiaeth bachgen 17 oed, Aamir Siddiqi, yng Nghaerdydd.
Mae Mohammed Ali Ege, 32, o ardal Glan-yr-Afon y brifddinas yn cael ei amau o gynllunio i lofruddio.
Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn du o dras Asiaidd, sy’n fain ac yn bum troedfedd deg modfedd o daldra. Mae ganddo wallt du sydd wedi’i eillio, llygaid brown ac acen Gymreig.
Mae ganddo gysylltiadau ar draws Caerdydd, Pontypridd a’r Barri, ond ni ddylai’r cyhoedd fynd yn agos ato yn ôl yr heddlu.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynglŷn â Mohammed Ali Ege fe ddylen nhw alw gorsaf heddlu canolog Caerdydd ar y rhif: 02920 527 303, neu alw Taclo’r Tacle, heb orfod rhoi eu henw, ar y rhif 0800 555 111.
Ond os oes unrhyw un yn gweld Mohammed Ali Ege fe ddylen nhw alw 999 yn syth.
Trywanu
Bu farw Aamir Siddiqi ar ôl cael ei drywanu yn ei gartref yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd ar ddydd Sul, 11 Ebrill.
Cafodd ei rieni eu hanafu’n ddifrifol yn ystod yr ymosodiad.
Mae dau ddyn, 36 a 37 oed, eisoes yn cael eu cadw yn y ddalfa wedi’u cyhuddo o lofruddio Aamir Siddiqi, ac am geisio llofruddio ei rieni.