Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, wedi rhybuddio Prif Weinidog Cymru fod yna beryg y bydd o’n “rhannu’r ymgyrch ‘Ie’ cyn iddo ddechrau”.

Mewn araith ar faes yr Eisteddfod yr wythnos diwethaf, dywedodd Carwyn Jones y byddai ennill y refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad y flwyddyn nesaf yn arwain at newid yn y ffordd y mae Cymru yn cael ei ariannu gan San Steffan.

Ychwanegodd fod Cymru yn colli £800,000 bob diwrnod wrth ddisgwyl am y refferendwm.

“Mae Llywodraeth San Steffan wedi cysylltu arian teg ar gyfer Cymru gydag canlyniad positif yn y refferendwm ar fwy o bwerau,” meddai.

Ond mae Kirsty Williams wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog gan ddweud bod angen ymgyrch ar y cyd gan bob plaid er mwyn ennill y refferendwm.

Rhybuddiodd na ddylai Carwyn Jones “herwgipo mater y refferendwm at fantais gwleidyddol ei blaid ei hun”.

“Rydw i wedi fy siomi bod Carwyn Jones wedi cyflwyno honiad mor anghywir a pleidiol ynghanol ymgyrch sydd i fod yn un ar y cyd,” meddai Kirsty Williams.

“Wrth wneud honiad o’r fath, heb ei drafod gydag arweinwyr y pleidiau eraill sy’n cefnogi pleidlais ‘Ie’, mae Carwyn Jones yn peryglu rhannu’r ymgyrch ‘Ie’ cyn iddo ddechrau’n iawn.

“Mae Llywodraeth Prydain wedi gweithredu’n gyflym er mwyn sicrhau bod refferendwm ar bwerau deddfu yn digwydd cyn gynted â phosib.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud ein gorau i wireddu ein haddewid 100 mlynedd i ddatganoli pŵer o San Steffan i Gymru ac rydyn ni eisiau gweithio’n adeiladol gyda aelodau blaengar o bob plaid er mwyn sicrhau pleidlais ‘Ie’.”