Roedd dyn oedrannus yn cysgu mewn carafán pan gafodd ei ddwyn gan ladron, clywodd Llys Ynadon Llandudno ddoe.
Yn ôl papur newydd y Daily Post, roedd William Roberts, 70, yn cysgu yn ei garafán £15,000 oedd wedi ei barcio yn ei ddreif ar Stryd Towyn, Towyn.
Ddoe cafwyd Benjamin Moorhead, 29, a Chantelle Kinnish, 24, o Yorkshire Street, Morecambe, yn euog o’r lladrad ar 2 Gorffennaf.
Roedden nhw wedi tynnu’r garafán i lawr yr A55, gyda’r heddlu ar eu hol, gan gyrraedd cyflymder o 80 milltir yr awr.
Daeth y garafán i stop ar ochor y ffordd yn Llanddulas a llwyddodd William Roberts i neidio allan a cherdded i Abergele.
Llwyddodd yr heddlu i atal y lladron a’u harestio nhw ar Stryd Bangor, Conwy yn ddiweddarach.