Fe fydd y dathliad cyntaf o greu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, heddiw.
Dyma fydd y dathliad cyhoeddus cyntaf ers i’r Frenhines gymeradwy creu’r sefydliad fydd yn uno Prifysgol Llanbedr Pont Steffan a Choleg y Drindod Caerfyrddin.
Yn ystod y digwyddiad am dri o’r gloch prynhawn heddiw fe fydd Dr Medwin Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol yn cyhoeddi penodi Cadeiriau cyntaf y Brifysgol Newydd.
Fe fydd Peter Davies, Comisiynydd Datblygiad Cynaliadwy Cymru ac Andrew Edwards, Cyn Ddirprwy Gwnstabl Cymru yn cael eu penodi i Gadeiriau “er mwyn cydnabod pwysigrwydd ac ymlyniad y Brifysgol i ddatblygiad a ffyniant y sector cyhoeddus.”
“Fe fydd profiadau ac arbenigedd Peter Davies ac Andrew Edwards yn galluogi’r Brifysgol i ddatblygu cyrsiau a meysydd academaidd ac ymchwil er mwyn cyfrannu at ddatblygiad polisïau ym meysydd cynaladwyedd, y gwasanaethau cyhoeddus a ffyniant cymunedau cefn gwlad Cymru,” meddai Medwin Hughes.
Fe fydd o hefyd yn dweud hefyd fod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn “cynnig math newydd o addysg ôl-16 a fydd yn pontio addysg bellach ac addysg uwch er mwyn cynnig llwybrau dysgu a chyfleoedd i gymunedau yn y rhanbarth”.